
Un o nodweddion amlycaf y parti yw’r bwrlwm a’r mwynhad amlwg a gant wrth ganu a’r amrywiaeth o adloniant a geir ganddynt. Gobeithio y cewch chithau flas ar wrando ar y CD newydd o ganeuon gwerin a hen garolau plygain, sy’n nodweddiadol o’r rhan hwn o Faldwyn.
Heb os, un person sy’n greiddiol i lwyddiant Parti Cut Lloi yw ei harweinyddes amryddawn, Siân James. Gwyddom am ei dawn a’i bri fel cantores ond diolchwn am iddi aros yn ei milltir sgwar i rannu o’i phrofiadau eang ac ysbrydoli’r bechgyn i ganu mor afieithus ac egnïol. Mae’n haeddu medal am gadw trefn ar rhain!
To view in English please click here.