Clawr CD
Caneuon y CD

Henffych Well(Hail)
Y Bore Ganwyd Iesu - (The Morning Christ was Born)
Hen Gloc Fy Nhaid - (My Grandfather's Clock)
Adeg Diolchgarwch © Sain - (During Thanksgiving)
Hen Benillion - (Old Verses)
Ar Dymor Gaeaf - (In the Season of Winter)
Ceinion Conwy - (The Beauty of Conwy)
Un o Fy Mrodyr I - (One of My Bothers Sent to Me)
Ar Hyd y Nos - (All Through the Night)
Y Sguthan - (The Wood Pigeon)
Dod Dy Law - (Place Your Hand)
Clychau Bethlem - (The Bells of Bethlem)
Gwenno Pen-y-Gelli - (Gwenno of Pen-y-Gelli
Hogyn Gyrru'r Wedd - (The Farmer's Boy)
Y Ddau Hen Lanc - (The Two Old Bachelors)
Huwcyn y Cariwr Dwr © Sain - (Huwcyn the Water Carrier)
Deio Bach - (Little Deio)
Ffarm Fach - (Little Farm)


£12.99 (yn cynnwys p&p)

Tefniannau gan Parti Cut Lloi a Siân James.

Hawlfraint y caneuon (oni nodir yn wahanol) Cyhoeddiadau Bos.

Diolchiadau:

Diolch i bawb a fu mor gefnogol i’r parti yn ystod y dair mlynedd diwethaf, yn enwedig y gwragedd (ac un gŵr!) a fu mor amyneddgar a brwdfrydig. Diolch hefyd i’r unigolion hynny a fu mor barod i gynnig caneuon ac i rannu eu casgliadau a ni: Mr. John Ellis Lewis, Mrs. Dwynwen Jones, Mr. T.Alun Mills Llangurig, Mr. Alun Jones Llangurig a Dr. Meredydd Evans.

Gallwch wrando ar un o ganeuon y parti wrth ddefnyddio y teclyn isod:



HENFFYCH WELL (HAIL)

Henffych Well i’r dydd y ganwyd aer y nef,
Ei groesawu wnawn mewn gorfoleddus lef.
Engyl gwynfa lan fu’n ei glodfori Ef
Bloeddiwn henffych well, henffych well i’r dydd.

Cytgan:
Henffych well i’r dydd


Heddiw’r Gair Tragwyddol ddaeth i wisgo cnawd
Mab y Duw Goruchaf anwyd inni’n frawd.
Bloeddiwn henffych well, henffych well i’r dydd
Bloeddiwn henffych well, henffych well i’r dydd.

Henffych well i’r dydd fe dorrodd nefol wawr,
Ceidwad pechaduriaid ddaeth i barthau’r llawr;
Dyrchwn pawb ei foliant am ei gariad mawr,
Bloeddiwn henffych well, henffych well i’r dydd

Henffych well i’r dydd y gwelwyd Duw y Gair,
Mewn cadachau’n Faban gwan ar liniau Mair;
Pur lawenydd i blant dynion heddyw bair,
Bloeddiwn henffych well, henffych well i’r dydd.

Henffych well i’r dydd garolwn yma ‘nghyd,
Henffych well i’r dydd esgyno’n uwch o hyd,
Henffych well i’r dydd adseinier drwy’r holl fyd;
Bloeddiwn henffych well, henffych well i’r dydd.

Carol Plygain hynafol o ardal Sir Drefaldwyn. Hon ganodd y parti yn Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod pan fuon nhw’n fuddugol yng nghystadleuaeth y parti gwerin.

A rousing Plygain carol from the Montgomeryshire area. A true celebration of the birth of Christ. This was the song the party sang at the National Eisteddfod in Meifod where they won the competition for Folk parties.

Top ↑↑

Y BORE GANWYD IESU(THE MORNING CHRIST WAS BORN)

Y bore ganwyd Iesu oedd fore hyfryd iawn,
Mae’r Beibl yn cofrestru yr hanes i ni’n llawn
Mor rhyfedd gweled Brenin yr holl frenhinoedd gwych
Yn gorwedd ar lawr gerwin yn llety gwael yr ych.

Pob llety yn yr ardal a’i gwrthodasant Ef
Caeasant ddrws i’w erbyn am nad oedd iddo le
A ydym ni am dderbyn yr Iesu hawddgar llon
Ai cau y drws i’w erbyn a wnawn y funud hon.

Angylion oedd yn canu mewn gynau gwynion claer
Y bore ganwyd Iesu yn Frenin nef a dae’r
Faint mwy a ddylem ganu ni bechaduriaid tlawd
Am eni’r annwyl Iesu yn gyfaill gorau gawd.

Y bore ganwyd Iesu y doethion llawn o ffydd
A ddaethant i’w anrhegu ar doriad gwawr y dydd
A rhoddwn ni ein calon yn anrheg iddo Ef
Mae’r Iesu’n derbyn rhoddion yn awr yn nheyrnas Nef.

Ti blentyn bach diniwed pam wyt mor drist dy drem
A fuost ti yn gweled gwiw Faban Bethlehem
Os wyt yn welw’th wyneb mewn gwisg o garpiau tlawd
Bu’r Iesu yn y preseb er mwyn bod i ti’n frawd.

Carol plygain arall boblogaidd yn cael ei chanu yn yr hen ddull o dri llais: yr alaw yn y canol a’r descant a’r bas naill ochor.

Another popular plygain carol sung in the traditional style: the middle voice takes the main melody between a descant and strong bass line.

Top↑↑

HEN GLOC FY NHAID MY GRANDFATHER’S CLOCK)

Ar fore dydd calan pan anwyd fy nhaid,
Prynwyd cloc wyth niwrnod o’r dre’
Gan ei fod yn rhy hir, yn ddioed fe fu raid
Iddo sefyll yn syth yn ei le.
Ac yng nghornel y gegin fe safai drwy ei oes,
Byth yn ffyddlon a hawddgar ei wedd,
Ond bu’n fud yng nghornel y gegin fach
Er pan glydwyd yr hen wr i’w fedd.

Cytgan:

Cadw’r amser heb golli dim, tic toc, tic toc,
Pob eiliad a rhoddai i’m, tic toc, tic toc
Bu’n fud yng nghornel y gegin fach
Er pan gludwyd yr hen wr i’w fedd.


Trwy gydol ei oes, llawenydd a loes,
Cadwodd gwmni a’r cloc ger y tan,
Pan yn fachgen yn chwilio am gysur ei oes,
Byddai’r cloc yn parhau i rhoi can.
Canodd bedwar ar hugain pan welodd yr hen gloc,
Y llanc yn dod gyda gwraig hardd ei gwedd,
Ond bu’n fud yng nghornel y gegin fach
Er pan gludwyd yr hen wr i’w fedd.

Fe ganodd y gloch yn nhawelwch y nos
A fy nhaid ar ei wely yn fud,
Gwelwyd arwydd yn eglur fod angel uwchben
Wedi dyfod I’w arwain o’r byd.
Roedd ‘rhen gloc fel petai wedi amau fwy neu lai
Fod ‘rhen wr wedi huno mewn hedd,
Ond bu’n fud yng nghornel y gegin fach
Er pan gludwyd yr hen ŵr i’w fedd.

Cyfansoddwyd y gan hon gan wr o’r enw Henry Clay Work a anwyd yn Connecticut yn1832. Rhywdro yn ystod ei fywyd daeth draw ar ymweliad i Loegr ac aros mewn gwesty ger Darlington, Durham.Yng nghornel un o’r ystafelloedd roedd hen gloc taid a gofynnodd am ei hanes. Y stori am y cloc hwnnw ysbrydolwyd iddo gyfansoddi’r gan hon. Bu’r gan yn aruthrol o boblogaidd yn ei dydd a gwerthwyd miliynau o gopiau ohoni dros y byd.

This song was composed by an American composer called Henry Clay Work who was born in Connecticut in 1832. On a visit to the British Isles he stayed in a hotel in Darlington, Durham and happened to notice a Grandfather’s clock in the corner of one of the rooms. Having enquired about the clock’s history, he was so inspired by the story that he composed this song. It became immensely popular and subsequently sold millions of copies. Somewhere along the way someone decided to translate it into Welsh and the song has now become a big favourite once again.

Top ↑↑

ADEG DIOLCHGARWCH DURING THANKSGIVING)

Ymddengys bod llawer iawn o’n arferiadau amaethyddol yn prysur ddiflannu. Mae’r gan hon yn olrhain rhai o’r arferiadau hynny a thrist yw meddwl bod y rhai a gadwodd y traddodiadau hyn yn fyw hefyd yn dechrau mynd.

Many of our farming customs are sadly beginning to disappear.  This is a song about some of those priceless traditions and the poignant realisation that those who kept those customs alive are also disappearing.

Top ↑↑

HEN BENILLION OLD VERSES)

Casgliad o hen benillion doniol o ardal Dyffryn Banw ar ffurf cerdd dant. Cafodd Alun y geiriau hyn oddi wrth ei ewyrth Mr. Richard Jones Cefnau.

collection of amusing verses from Dyffryn Banw on cerdd dant. Alun found the words in his uncle Mr. Richard Jones’ collection of songs.

Top ↑↑

AR DYMOR GAEAF (IN THE SEASON OF WINTER)

Ar dymor gaeaf dyma’r wyl
Sydd annwyl, annwyl im;
Boed sain llawenydd ymhob llu
Waeth geni’r Iesu gwyn.
Datseiniwn glod a llafar don
Rhoed y tylodion lef
I gofio’r pryd y gwelwyd gwawr
Eneiniog mawr y nef.

Ar gyfer heddiw’n Faban mwyn
A gaed o’r forwyn Fair,
Ac yno gweled dynol ryw
Ogoniant Duw y gair.
Mab Duw gorucha’n isa nawr
Mewn preseb lle pawr ych.
O gwelwch luoedd daear lawr
Diriondeb mawr y drych.

Wel dyma gysur mawr i’r gwan
Sydd beunydd dan ei boen,
Fod gwen maddeuant meddiant mwyn
Ar wyneb addfwyn Oen.
Mae’n galw drwy’r Efengyl ber
Ar bawb yn dyner dewch,
Nesewch at aur gynteddau’r Tad
Trugaredd rad a gewch.

E bery cariad Iesu cu
Fyth I’w ryfeddu’n faith,
Dadganu ei fawl, ryglyddawl glod
Sydd ormod, gormod gwaith.
Hyn oll yn awr a allwn ni,
Sef llawen godi llef.
Pa fodd yn well i seinio clod,
Cawn wybod yn y Nef.

Carol Plygain boblogaidd arall yn dathlu geni Iesu Grist.

One of our most popular Plygain carols, again celebrating the birth of Christ.

Top ↑↑

CEINION CONWY ( THE BEAUTY OF CONWY)

Er cael pleserau ‘ngwlad y Sais
A gweld ei ddyfais wiwber;
Mae gwlad yr awen geinwen gell
Er hynny’n well o’r hanner;
Ei hawel iach a’i melys ddwr,
A chyflwr ei thrigolion
Wrth gofio’i beirdd rhyw hiraeth draidd
Drwy giliau’r wanaidd galon.
Braidd na ddywedwn yn ddi-wad
Mai nefol wlad yw Cymru,
O na bai ‘nhroed yn sengi hon
Ar finion Ceinion Conwy.

Nid oes i’m gysur dan y ne’
Heb le yng Nghymru dirion
Mae bod ymhell oddiwrthi hi
Ymron a thorri nghalon;
Mae’r pethau hoff a’r pethau cu
I Gymru’n ymgyfeirio;
Mae adar can a’r awel wynt
A’u helynt tuag yno.
I wlad yr estron ar fy nhro
Nid awn i eto’i dramwy,
Pe cawn fy nhroed ar ddaear hon
Ar finion Ceinion Conwy.

Can hiraethus am ŵr yn methu ei gartref a’i wlad. Mae’r bennill gyntaf yn draddodiadol a’r ail gan T.H.Parry Williams.

A song about a man’s deep longing for his homeland. Despite the worldly pleasures of England there is no place like Cymru and the beauty of Conwy.

Top ↑↑

UN O FY MRODYR I (ONE OF MY BROTHERS SENT TO ME)

Wel un o fy mrodyr i
Wel un o fy mrodyr i
Wel un o fy mrodyr a yrrodd i mi
Un ych, un tarw, un blaidd, un ci:

Cytgan:

Un carn, un troed, un blaidd un ci
Ych a tharw, blaidd a chi
A yrrodd un o fy mrodyr i mi.


Can orchest a fu mwy na thebyg yn rhan o un o’n defodau wyliau : ffurf ar gystadlu rhwng yr ymwelwyr oddi allan a theulu’r ty o’r tu mewn gyda’r cantorion yn ceisio canu am y cyflymaf ac ynganu’r geiriau mor glir a phosib. Mae’n debyg hefyd bod dawnsio yn rhan o’r orchest yn y yr hen dyddiau gan bod disgrifiad yn bodoli o hen ŵr yn canu ac yn dawnsio wrth fynd drwy’r penillion.

This is a fine example of a feat song – similar in nature to Cyfri’r Geifr (Counting the goats) The task is to sing each verse on one breath; each verse getting longer and faster as the song progresses. It seems that dancing was also part of the feat in days gone by, as the following description in Cymru 1900 shows: the old boy was partly singing and partly dancing while going through the verses.

Top ↑↑

AR HYD Y NOS(ALL THROUGH THE NIGHT)

Holl amrantau’r ser ddywedant
Ar hyd y nos
Dyma’r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos
Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch,
Teulu’r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos.

O mor siriol gwena’r seren,
Ar hyd y nos,
I oleuo’i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos
Nos yw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i’n gilydd,
Ar hyd y nos.

Un o ganeuon mwyaf poblogaidd y Cymru, o Gwm Nant yr Eira i Gwm???(Patagonia). Mae’r geiriau gan Mynyddog.

This has to be one of Wales’ most popular and most widely sung songs. The words are by Mynyddog.

Top ↑↑

Y SGUTHAN (THE WOOD PIGEON)

Adroddaf i chi bwt o stori
Mi geisiaf fynd yn drwstan drosti
A chwaith ni ddwedaf ond y gwir
Y gwir a saif dim ond y gwir.

Am ddau lanc ifanc o’r plwy yma
Ryw noson aethant ffwrdd i hela
Aeth un a’i wn a’r llall a’i gi
Gael bod yn siwr o ddal y pry.

Fe gododd un i fyny ei ben,
Agwelodd sguthan ar y pren,
“Wel cydia di yng ngwar y ci
Rhag ofn iddo fynd o ngafael i”

A chargio’r gwn wnarth wedi hynny,
A bacio nol gael lle i ‘nelu
Tra’r llall yn crynu wrth fon y pren
Rhag ofn i’r shots fynd oddeutu’i ben.

Pan aeth yr ergyd gyntaf allan
Yr oedd ei thwrw megis taran
A rhedeg wnaent i’r lle a’r fan
Rhag ofn i’r ci gael mwy na’i ran.

Fe’i cafwyd gyntaf o geg y ci
Ac adref aethant ffwrdd a hi
A gofyn wnaent i wraig y ty
A wnai ei rhostio am ei phlu.

A gwraig y ty pan aeth i bluo
Fe glywai rhywbeth yn ymrwyfo
A gofyn wnaeth i deulu’r ty
A glywent hwy rhyw aroglau cry’.

Doedd gwraig y ty ddim yn gwybod y cyfan
Mai wedi trigo roedd y sguthan
Ac wedi syrthio i fforch yn y pren
Nis gallai lai na chodi ei phen.

Roedd wedi mynd yn ol ei phris
Ac wedi trigo ers pedwar mis
A’r llanciau gadd ei siomi’n siwr
A’u swper hwy oedd briwes ddwr.

Baled boblogaidd o Sir Drefaldwyn a wnaethpwyd yn boblogaidd gan Aelwyd Penllys tra roedd y dihafal Elfed Lewys wrth y llyw. Mae hanes y ddau gog a aeth allan i hela yn stori wir.

A ballad from Montgomeryshire which was made popular by Aelwyd Penllys under the leadership of Elfed Lewys who was himself a famous singer of ballads and folk music. The story tells of two friends who go hunting for game. They eventually take a shot at a wood pigeon and after retrieving it from the dog’s mouth take it home to prepare it for their supper. But the housewife notices a very strong smell emanating from the bird and it turns out that the poor pigeon had been dead for at least four months ! This is apparently a true story.

Top ↑↑

DOD DY LAW (PLACE YOUR HAND)

Dod dy law ond wyt yn coelio
Dan fy mron a gwylia mriwio
Ti gei glywed os gwrandewi
Swn y galon fach yn torri.

O f’anwylyd, cymer frwynen
Ac ymafael yn ei deupen
Yn ei hanner tor hi’n union
Fel y torraist ti fy nghalon.

Trwm yw’r plwm a thrwm yw’r cerrig
Trwm yw calon pob dyn unig
Trymaf peth dan haul a lleuad
Canu’n iach lle byddo cariad.

Can werin hyfryd o Lanerfyl. Dywedodd Amy Parry-Williams iddi gael y gan oddi wrth Miss Tydfil Roberts, Y Rectory Llanerfyl a glywodd y gân gan ei mam. A beautiful love song from Llanerfyl. A Miss Tydfil Roberts of the Rectory Llanerfyl who received the song from her mother, passed on the song to the collectors at the Welsh Folk Song Society.

Top ↑↑<

CLYCHAU BETHLEM (THE BELLS OF BETHLEM)

Carol Plygain gan y triawd o gasgliadau John Ellis Lewis, Moeldrehaearn.

Another plygain carol from the collections of John Ellis Lewis Moelderhaearn.

Top ↑↑

GWENNO PEN-Y-GELLI (GWENNO OF PEN-Y-GELLI)

Rwy’n ddeg ar hugain oed
Ac arnai chwant priodi
Geneth ysgafn droed
Fel Gwenno Penygelli
Mae ganddi ddillad crand
A mae hi’n eneth bropor
A deg punt yn y banc
Ar ol ei modryb Gaenor.

Cytgan:

Di wec ffal-di lal lal la
Di wec ffal di lal lal la
Di wec ffal di lal lal la.


Mae gen i het Jim Cro
Yn barod am fy siwrne,
A sgidie o groen llo
A gwisg o frethyn cartre’
Mae gen i dy yn llawn
Yn barod i’w chpesawu,
A phedair tas o fawn
A dillad ar fy ngwely.

Mae gen i ddafad ddu
Yn pori ar Eryri
Chwiaden, cath a chi
A gwartheg lond y beudy;
Mi fedraf dasu a thoi
A chanu a dal yr arad,
A gweithio heb ymdroi
A thorri gwrych yn wastad.

Roedd yno bwdin pys
A hwnnw ar hanner berwi
Y cwc wedi torri’i bys
A cholli’r cadach llestri;
Cig y maharan du
Yn wydyn yn ei gymale
Potes maip yn gry
A chloben o baste ‘fale.

Top ↑↑

HOGYN GYRRU’R WEDD (THE SHIRE BOY)

Yr haul ymsuddai dros y bryn
I’r eigion fel rhyw gawr,
Pan gurai hogyn gwelw syn
Wrth ddrws amaethdy mawr.
Gofynnai hwn o dan ei bwn
A’i fochau’n llwyd eu gwedd
“Ple gallaf gael rhyw damaid gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd.

Mae saith ohonom gyda mam
A’m tad mewn beddrod llaith
A gwaeth na hyn y fi fy hun yw’r hynaf un o’r saith
Mi wnaf fy rhan er lleied wyf
A llwyted yw fy ngwedd
Os gallaf gael rhyw gyflog gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd.

Os nad oes arnoch eiseu’m gwaith
A gaf fi gennych chwi
Rhyw gysgod rhag y noson laith
Rhag oerni’r gaeaf du?
‘Rol noson faith caf chwilio am waith
Er mwyn cael gella’m gwedd
Os gallaf gael rhyw gyflog gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd”.

Ond d’wedai gwraig y ty mewn serch,
“Cymerwch ef da chwi”
“O ie nhad” ategai’r ferch
A’i dagrau’n treiglo’n lli
“Mae’n gwilydd mawr fod neb yn awr
Yn crwydro’n llwyd ei wedd
Os gall ef gael rhyw gyflog gwael
Yn hogyn gyrru’r wedd.

Y tad a’r fam aent cyn bo hir
I fynwent Tanygraig
A’r tyddyn ddaeth yn eiddo’r llanc
A’r ferch ddaeth iddo’n wraig;
Ar aelwyd lan mae’n canu can
Yn siriol iawn ei wedd,
Wrth gofio’r pryd daeth at y ty
Yn hogyn gyrru’r wedd.

Top ↑↑

Y DDAU HEN LANC (THE TWO OLD BACHELORS)

Adwaenost ti Tomos fu’n byw’n Tan-y-Gro
Dwaenwn siwr,dwaenwn siwr
Mae wedi priodi’r ferch sala’n y fro
Felly’n siwr, felly’n siwr
Mae’n slwt yn wir ystyr fanylaf y gair
Dyna hi, dyna hi,
Aiff mwy at ei chadw na ambell I dair
Dear me, dear me.

Cytgan;

Ha ha, ha ha, ha ha ha ha ha
Ry’m ninnau mor llawen a’r wyn ar y bryn
Ha h,a ha h,a ha ha ha ha ha
Pwy fyth gymer wraig tra bo gwragedd fel hyn?
Pwy fyth gymer wraig tra bo gwragedd fel hyn?

Bu caneuon chwerthin fel hon yn math o ganu poblogaidd iawn yn ystod y ganrif ddwytha’ a hynny fel arfer yn y music halls. Bu John Ellis Ellis Moeldrehaearn a Watt Penparc yn canu hon mewn nosweithiau llawen am sawl blwyddyn yn ystod y 60au a’r 70au.

Laughing songs such as this one were very popular in the music halls during the late 19th and 20th centuries. This particular one was found and sung by John Ellis Lewis and Watt Davies and was a big hit in ‘nosweithiau llawen’ throughout Montgomeryshire during the 60’s and 70’s.

Top ↑↑

HUWCYN Y CARIWR DWR (HUWCYN THE WATER CARRIER)

Mewn pentref yn Sir Feirionydd,
Ers llawer blwyddyn yn ôl,
Nid oedd ond ychydig allan o waith,
Ac 'roedd hynny cyn dyddiau'r dol.

Yr oedd llanc yn y pentref hwnnw
A dyfodd i oedran gwr,
Ac enw y llanc tase hynny o bwys
Oedd Huwcyn y cariwr Dwr.

Fe chwiliai am waith yn gyson,
Ond methai ai gael yn siŵr,
A bodlon oedd Huwcyn ar bacet o ffags,
Am bedair siwrnai o ddŵr.

Ond noson y ffair yn sydyn,
Fe gwrddodd Huwcyn a Gwen,
A syrthiodd Huw fel y gwnaeth ei dad,
Mewn cariad dair llath dros ei ben.

Addawodd Huw ei phriodi,
A Gwen ddywedodd yn siŵr,
Mi briodwn i Huw tasa rhaid i mi fyw
Am byth ar fara a dwr.

O'r gorau, medd Huw dyna fargen,
I ti, mi fyddaf yn ŵr,
Gofala di am y bara Gwen,
Ac mi garia innau'r dwr.

Un o osodiadau hyfryd Emrys Llangwm o eiriau Dewi Fai o Feirion(?)ar yr alaw “Y Bardd yn ei Awen”

A wonderful example of penillion singing sung in its purest form. The gosodiad (arrangement) is by the renowned singer Emrys Llangwm, the words by a Dewi Fai o Feirion and the air used is “Y bardd yn ei awen”.

Top ↑↑

DEIO BACH (LITTLE DEIO)

Megais fachgen bach ac annwyl
Ar fy mron mewn trafferth mawr
Deio ti yw’r bachgen hwnnw,
Nas gwn ble yr wyt yn awr
Maith yw’r amser er yth welais,
’Machgen annwyl wyt ti’n iach?
Os nad elli ddyfod trosodd
Anfon lythyr Deio Bach.

Caled yw fy nhamaid bara
Ie caled iawn a phrin
Tra mae ‘mhlentyn mi obeithiaf
Gyda’i fara gwenith gwyn
Pan fo’ch di fy annwyl blentyn
Wrth dy ford heb nych na nam
Os nad yn ormod gofyn
Cofia damaid gwael dy fam.

Os nad elli ddyfod trosodd
Os nad elli’m helpio ddim
Meiddiaf ofyn un peth iti
‘falle rho di hwnnw im
Carreg fedd nid wy’n ei ofyn
Gormod hyn gan hiraeth iach
Dyro ddeigryn wrth fy nghofio
Dim ond deigryn Deio Bach.

Can fach drist o hanner gyntaf yr 20fed ganrif yn son am hiraeth mam am ei mab. Cofiai rhai o drigolion Dyffryn Banw hon yn cael ei chanu’n aml gan gogie ifanc y fro.

A beautifully melancholy song from the first half of the 20th century which describes a mother’s sadness at her son’s absence. This song has been popular in Dyffryn Banw for many decades.

Top ↑↑

FFARM FACH(THE LITTLE FARM)

Ffarm fach a’i thrin yn iawn
A thy bach a hwnnw’n llawn
A gwraig fach yn berchen dawn i mi, i mi.

Ffarm fawr a’i thrin yn iawn
A thy mawr a hwnnw’n llawn
A gwraig fawr yn berchen dawn i mi, i mi.

Rwy’n hoffi’r ffarm yn iawn
Ac rwy’n hoffi’r ty yn llawn,
Ond yr un wraig yn siwr i mi, i mi.

Cytgan:

Gwraig fach fach yn siwr i mi
Gwraig fawr fawr yn siwr i mi
R’un wraig yn siwr, yn siwr i mi.


Ffarm fach lawr wrth y nant
A thŷ bach yn llawn o blant
A gwraig fach i godi chwant ges i ges i.

Ffarm fawr lawr wrth y nant
A thŷ mawr yn llawn o blant
A gwraig fawr i godi chwant i mi, i mi.

Ces ffarm lawr wrth y nant
A thŷ mawr sy werth pum ciant
Ond ru’n wraig i godi chwant ges i, ges i.

Mae’r gan hon wedi cael ei chanu yn yr ardal hon ers blynyddoedd mawr ond mae’n debyg mai tarddiad y gan yw un o operau baledol o’r 18ed ganrif o’r enw A Soldier’s Return. Byddai cyfansoddwyr yn aml yn defnyddio caneuon gwerin yn y math yma o gyfansoddiadau (felly hefyd yn yr anterliwtiau). Bellach dros dreigl amser mae’r gan wedi ei hawlio gan y Cymru ac yn enwedig gan drigolion Sir Drefaldwyn. Cyfansoddwyd yr ail bennill gan Mr. Dafydd Evans, un o aelodau’r côr.

This song has been sung in Montgomeryshire for many years but it seems that the source of the song may be a ballad opera from the 18th century called The Soldier’s Return by ?. Composers of genres such as ballad and comic operas often used traditional tunes in their work. The song has now become an integral part of Wales' song culture especially in Montgomeryshire thanks to the invaluable phenomenon of word of mouth.

Top ↑↑